# started 2014-08-16T12:50:00Z "Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) oedd prif gorff ymgynghorol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar bob agwedd ar addysg a chymwysterau. Cafodd ei uno ag adran addysg a sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2006, gyda nifer o gyrff eraill i greu AADGOS (Yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau), a drowyd wedyn yn APADGOS (Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau). Roedd swyddfa'r awdurdod yng Nghaerdydd."@cy . "Dydd Gŵyl Dewi Sant ar 1 Mawrth yw'r diwrnod y dethlir Dewi Sant, nawddsant Cymru. Bydd nifer o blant yn gwisgo'r wisg Gymreig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau ysgol—yn arbennig trwy ganu ac adrodd. Bydd llawer o bobl o bob oed yn gwisgo cenhinen bedr (a welir fel arwyddlun Cymreig) neu genhinen (arwyddlun Dewi Sant) ar y diwrnod. Cynhelir nifer o Nosweithiau Llawen a chyngerddau. Hefyd y mae nifer o gymdeithasau yn cael noson gawl a gŵr gwadd i'w hannerch.Mae'r cyntaf o Fawrth wedi bod yn ŵyl genedlaethol ers canrifoedd ; yn ôl y traddodiad bu farw Dewi Sant ar y cyntaf o Fawrth 589 OC.. Gwnaed y dyddiad yn ddydd cenedlaethol (answyddogol) Cymru yn y 18fed ganrif. Cynhelir gorymdaith flynyddol yng Nghaerdydd i ddathlu'r ŵyl. Yn 2006 yn yr Unol Daleithiau cafodd Dydd Gŵyl Dewi ei gydnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd yr 'Empire State Building' ei oleuo yn lliwiau baner Cymru. Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau.Cododd problem yn 2006 o ran agwedd grefyddol yr ŵyl, gan fod y cyntaf o Fawrth yn disgyn ar Ddydd Mercher Lludw, sy'n cael ei ystyried yn ddiwrnod anaddas i ddathlu. O ganlyniad, dathlwyd y diwrnod ar 28 Chwefror gan y Catholigion ac ar 2 Mawrth gan yr Eglwys yng Nghymru. Mae ymgyrch ar droed i gael Dydd Gŵyl Dewi yn ddydd gŵyl banc swyddogol yng Nghymru. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006 yr oedd 87% o bobl Cymru yn cefnogi hyn, gyda 65% yn barod i aberthu gŵyl banc arall yn ei le. Yn 2013 cynhalwyd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth am y tro cyntaf gan gerdded o Gloc y Dref i sgwâr Llys y Brenin. Ysbrydolwyd y Parêd gan Orymdaith Dewi Sant Caerdydd. Yn ôl y trefnydd, Siôn Jobbins, cynhelir y digwyddiad i \"ddathlu Dewi, y Gymraeg a'n traddodiadau unigryw\".Cynhelir Parêd Gŵyl Dewi gyntaf Pwllheli yn 2014."@cy . "Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Chile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Ar ochr Chile o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o ledred 42°D, gan gynnwys rhan ddeheuol rhanbarth politicaidd Los Lagos a rhanbarthau Aysén a Magallanes (heblaw am y rhan o Antártica a hawlir gan Chile). Ar ochr yr Ariannin o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o afonydd Neuquén a Río Colorado, gan gynnwys y taleithiau Neuquén, Río Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del Fuego, a rhan ddeheuol Talaith Buenos Aires. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.Yn yr Ariannin, mae Patagonia wedi ei rhannu yn bedair talaith: Neuquén: 94,078 km², rhwng yr afonydd Nequen a Limay, yn ymestyn tua'r de hyd at lan gogleddol Llyn Nahuel-Huapi, a thua'r gogledd hyd at y Rio Colorado. Río Negro: 203,013 km², rhwng Môr yr Iwerydd a'r Andes, rhwng Nequen a lledred 42° De. Chubut: 224,686 km², rhwng 42° a 46° De. Santa Cruz: 243,943 km², rhwng Chubut a ffîn Tsili.Daw'r enw o'r gair patagón sef cewir mewn mytholeg a chredwyd eu bônt ddwywaith maint dyn - 12 i 15 troedfedd (3.7 i 4.6 m)."@cy . "Gweler hefyd Cymru (gwahaniaethu).Mae Cymru (hefyd Saesneg: Wales) yn wlad Geltaidd. Gyda'r Alban, Cernyw, Gogledd Iwerddon a Lloegr, mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Lleolir y wlad yn ne-orllewin gwledydd Prydain gan ffinio â Lloegr i'r dwyrain, Môr Hafren a Môr Iwerydd i'r gogledd a'r gorllewin. Cymru yw tywysogaeth fwyaf y byd, ond bellach nid yw'r term \"tywysogaeth\" yn cael ei defnyddio'n aml i'w disgrifio. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad ond siaredir Saesneg gan y cyfan o'i dinasyddion erbyn heddiw; gall oddeutu 19% o'i phoblogaeth siarad Cymraeg."@cy . "Dyma restr rhai o Gymry enwog."@cy . "Yn ddisgynnydd i dywysogion Powys, Owain Glyndŵr, Owain Glyn Dŵr neu Owain ap Gruffudd (1354 - tua 1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys. Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr Rhisiart II, brenin Lloegr, a fyddai'n ddiweddarach Harri IV, brenin Lloegr.Ym mis Medi 1400, flwyddyn ar ôl i Harri feddiannu gorsedd Lloegr, dechreuodd ffrae rhwng Glyndŵr a'i gymydog Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn, a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru. Ar Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi 1400) llosgodd Glyndŵr dref Rhuthun yn llwyr, heblaw'r castell. Ffurfiodd gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers (Sir Caergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402. Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond ar ôl 1405 dechreuodd y gwrthryfel edwino'n raddol. Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes unrhyw sicrwydd am ei hanes ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o bileri pwysicaf y genedl."@cy . "Sefydliad ymchwil a datblygu addysg yng Nghymru a Lloegr yw'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (SYCA). Mae dau brif gyfeiriad i waith y Sefydliad ymchwil a datblygu profion ac asesu.Lleolir y pencadlys yn Slough, Berkshire, yn Lloegr. Lleolir yr uned Gymreig yn Abertawe. Sefydlwyd SCYA yn 1946.Mae Adran Asesu a Mesur y sefydliad yn datblygu asesu statudol yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a phrofion Cymraeg (yng Nghymru) a Saesneg."@cy . "Hen Wlad fy Nhadau yw anthem genedlaethol Cymru. Ysgrifenwyd geiriau'r anthem gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o Bontypridd.Perfformiwyd y gân, neu Glan Rhondda fel y gelwid hi’n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg unai ym mis Ionawr neu Chwefror, 1856 gan gantores leol, Elizabeth John, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ar ôl i Thomas Llewelyn o Aberdâr ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Yn Rhuthun y cafodd ei hargraffu yn gyntaf - yn yr adeilad du-a-gwyn a ddefnyddir heddiw yn gaffi 'Siop Nain'.Gwnaed y recordiad Cymraeg cyntaf, sydd yn hysbys, yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol.Defnyddir fersiynau o’r anthem gan Gernyw, Bro Goth Agan Tasow ac yn Llydaw ers 1902, Bro Gozh ma Zadoù. Mae’n debyg fod fersiwn i’w chael yn India yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw Ri Khasi, ac aiff y traddoddiad nôl i’r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i’r ardal.Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan Tich Gwilym yn null Jimi Hendrix. Bu cryn dynnu coes ar John Redwood (Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd) am ei ymdrechion i ganu'r anthem yn ystod cynhadledd Gymreig y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, doedd ddim yn gwybod y geiriau, ac ni lwyddodd guddio'r ffaith mai meimio oedd o."@cy . "Dyma Restr gwledydd sofran yn nhrefn eu poblogaeth. Mae'r ffigyrau'n dod o'r CIA World Factbook; dydyn nhw ddim bob amser yn gyfoes, ond mae nhw'n weddol agos."@cy . "Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Hi ydyw rhan fwyaf gwladwriaeth y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd. Yn y chweched a'r seithfed ganrif cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon. Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mercia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr wythfed a'r nawfed ganrif, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.Nawddsant Lloegr: Sant Siôr - 23 Ebrill."@cy . "Mae Gweriniaeth yr Ariannin (Sbaeneg: República Argentina ynganiad ?/i) neu'r Ariannin yn wlad yn ne-ddwyrain De America. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd yr Andes a rhan ddeheuol y Môr Iwerydd. Mae'n ffinio â Uruguay, Brasil, Paraguay, Bolifia a Chile. Sbaeneg yw'r iaith swyddogol. Mae'r enwau Sbaeneg a Chymraeg yn dod o'r Lladin argentum ('arian'), metel gwerthfawr a anogodd yr ymgartrefu cynnar Ewropeaidd."@cy . "Gweler hefyd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn (gwahaniaethu).Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) (tua 1225 – 11 Rhagfyr 1282), oedd Tywysog Cymru a Gwynedd cyn i Gymru gael ei goresgyn gan Edward I, Brenin Lloegr. Roedd yn fab i Ruffudd ap Llywelyn ac yn ŵyr i Lywelyn Fawr, Tywysog Cymru. Mae'r 11 o Ragfyr yn cael ei ystyried gan lawer fel Gŵyl i'w gofio."@cy . "Nofelydd o Ddinbych a ysgrifennai yn yr iaith Saesneg oedd Rhoda Broughton (29 Tachwedd, 1840 - 5 Mehefin, 1920)."@cy . ""@cy . "Gweler hefyd Jack Jones (arweinydd undeb)Nofelydd Cymreig a ysgrifennai yn Saesneg oedd Jack Jones (24 Tachwedd 1884- 7 Mai 1970). Ganwyd ym Merthyr Tudful."@cy . "Gweler hefyd Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf) a Llywelyn (gwahaniaethu).Llywelyn Fawr, sef Llywelyn ab Iorwerth (1173 – 11 Ebrill 1240), ŵyr Owain Gwynedd, oedd Tywysog Gwynedd a Thywysog de facto Cymru. Roedd yn unig fab i Iorwerth Drwyndwn, mab cyfreithlon hynaf Owain Gwynedd, ac yn daid i Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru."@cy . "Dramodydd ac actor oedd Emlyn Williams (26 Tachwedd 1905 – 25 Medi 1987), a aned ym Mostyn, Sir Fflint, yn ngogledd-ddwyrain Cymru."@cy . "Bardd metaffisegol Cymreig yn yr iaith Saesneg oedd Henry Vaughan (17 Ebrill 1622 (?) – 28 Ebrill(?) 1695)."@cy . "Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Gwlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng Grønland (yr Ynys Las) a Phrydain Fawr."@cy . "Arlunydd o Ddinbych-y-Pysgod, Sir Benfro, oedd Augustus John (4 Ionawr, 1878 - 31 Hydref, 1961), ac yr oedd yn frawd i Gwen John. O ganlyniad i ddylanwad James Dickson Innes o Lanelli aeth ar daith arlunio i ogledd Cymru, a daeth i sylweddoli posibiliadau paentio tirwedd panoramig y wlad. Aeth ymlaen yn ddiweddarach, wedi marwolaeth Innes, i baentio portreadau. Mae'r portreadau yn arwyddocaol yn arbennig oherwydd eu bont yn rhoi bywyd a chymeriad i'r gwrthrychau.Ei wraig gyntaf oedd Ida Nettleship (1877-1907), a'i ail wraig oedd Dorothy \"Dorelia\" McNeill. Roedd Evelyn St. Croix Rose Fleming yn gariad iddo ac Amaryllis Fleming yn ferch gordderch iddo. Roedd John yn hoff iawn o Ffrainc a noethlymuna.Roedd ei gysylltiad gyda'r Sipsiwn yn un arbennig iawn ac roedd yn bresenol yn angladd y Dr. John Samson (a elwid yn 'Romano Rai' gan y sipsiwn) ar gopa'r Foel Goch ger Llangwm, Sir Conwy yn Nhachwedd 1931 i sŵn telynau ac ambell ffidil."@cy . "Cerddor a chyfansoddwr oedd Syr Henry Walford Davies (6 Medi, 1869 – 11 Mawrth, 1941) a oedd yn adnabyddus i lawer a wrandawai arno’n darlledu am gerddoriaeth ar y radio."@cy . "Arlunydd a bardd oedd David Jones (1 Tachwedd 1895 - 28 Hydref 1974), a aned yn Brockley, Caint, Lloegr.Roedd ei dad yn oruchwyliwr mewn argraffdy yn Sir y Fflint a symuodd i fyw yn Lloegr yn 1885, a Saesnes oedd ei fam.Er iddo gael ei eni yn Lloegr roedd yn ymwybodol iawn o'i Gymreictod, ffaith a welir yn aml yn ei waith fel bardd ac arlunydd. Enillodd Gwobr Hawthornden yn 1938 am ei gerdd In Parenthesis.Roedd yn ddisgybl i Eric Gill ac yn ffrind i Saunders Lewis, Aneirin Talfan Davies a Vernon Watkins."@cy . "Dyn neu ddynes sy'n cyfansoddi barddoniaeth yw bardd."@cy . "Newyddiadurwr a fforiwr yn Affrica oedd Syr Henry Morton Stanley (29 Ionawr 1841 - 10 Mai 1904), a anwyd yn Ninbych."@cy . "Siaredir Ocsitaneg yn Ne Ffrainc, yn bennaf yn ardal Profens, rhannau o'r Eidal (Dyffrynoedd Ocsitan), a rhannau o Sbaen (Dyffryn Aran)ac yn Monaco. Mae'n un o'r ieithoedd Romáwns ac mae'n perthyn yn agos i Gatalaneg. Nid yw Ffrainc wedi cefnogi'r iaith yn effeithiol,[angen ffynhonnell] ac mae llai o siaradwyr Ocsitaneg heddiw. Siaradwr enwog yw Frédéric Mistral, bardd Provençal."@cy . "Roedd Dylan Marlais Thomas (27 Hydref 1914 - 9 Tachwedd 1953) yn fardd poblogaidd yn ysgrifennu yn Saesneg, ac yn dod o Abertawe. Cafodd ei eni a'i fagu yn rhif 5, Cwmdonkin Drive yn ardal yr Uplands. Er ei fod wedi treulio ei holl blentyndod yng Nghymru oherwydd agwedd gwrth-Gymraeg ei dad ni ddysgodd yr iaith ond fe wyddir ei fod yn hoff iawn o'i wlad.Mae'n enwog am fod yn fardd ddeiliadon ac am ei ddarlleniadau hynod o'i ddarnau. Mae hefyd yn enwog am ei alcoholiaeth. Honnodd, \"An alcoholic is someone you don't like, who drinks as much as you do.\" Priododd Caitlin a chawsant dri o blant. Ym 1995 agorwyd Canolfan Dylan Thomas yn ardal y Marina yn Abertawe."@cy . "Roedd David Ivor Davies neu Ivor Novello (15 Ionawr 1893 – 6 Mawrth 1951) yn ddifyrwr, yn